Llongyfarchiadau mawr i Steffan Davies, Parc y Llan, Llandybie ar ennill cystadleuaeth FutureChef Cymru 2011 yng Nghastell Nedd. Wrth ennill y gystadleuaeth roedd Steffan yn mynd i'r rownd Genedlaethol Brydeinig i gynrychioli Cymru a chafodd ei chynnal ar 21 Mawrth yng Ngholeg Kingsway, Westminster.
Coginodd Steffan mecryll wedi ei ffrio gyda chacen bysgod coley a chorgimwch ar wely o jam chili, ac i ddilyn brownie siocled a chnau gyda hufen toffi.
Mae Steffan yn ddisgybl ym mlwyddyn 12 yn astudio Lefel A yn Tregib, Llandeilo.
Eleni gwelwyd record o ran yr ysgolion a gofrestrodd ar gyfer cystadleuaeth "FutureChef". Roedd 739 ysgol a 7897 o fyfyrwyr yn cystadlu. Yr ennillydd wedi cystadleuaeth agos o safon uchel oedd Jessica Higgins o Bromsgrove.
No comments:
Post a Comment