Cafwyd noson wrth fodd yr aelodau ar yr ail Fawrth, pan ddaeth disgyblion yr ysgol Gynradd i ddiddanu. Cyflwynwyd y plant yn fedrus iawn gan Mrs Sandra Rees. Cawsom amrywiaeth o eitemau ganddynt unigolion yn canu, a chanu mewn côr llefaru, chwarae offerynnau, a dawnsio disgo egniol iawn. Gwledd i’r glust a’r llygaid. a llawer o’r plant wedi taclu ar gyfer Dydd Gŵyl Ddewi Diolch yn fawr i bawb o’r Prif Athro Mr K. Morgan, Mrs Rees y cyfeilyddion a’r cynorthwyr dosbarth a’r plant wrth gwrs, ynghŷd â’u rhieni a mamau a thadau -cu Daeth y noson i ben drwy ganu Hen Wlad Fy Nhadau. Melys moes mwy
No comments:
Post a Comment