Ar Fawrth 11eg ,bu’r aelodau’n dathlu Gŵyl Ddewi. Eleni, yn wahanol i’r arfer,aethant allan am bryd canol dydd i’r Abercrave Inn. Y gŵr gwâdd oedd Mr. Euros Jones Evans, Ystradowen, ac roedd yn braf cael ei gwmni ef a’i wraig Pat. Yn dilyn y wledd(wir!) cafwyd anerchiad hynod o ddifyr a phwrpasol gan Euros.
Yng nghyfarfod mis Ebrill, y gwestai oedd Marion Fenner, Cwmllynfell. Mae Marion yn adnabyddus fel actores, ond mae hefyd wedi gweithio llawer ym myd colur, gan ymddangos yn gyson ar S4C. Bu’n sgwrsio â’r aelodau am ofal y croen cyn trafod sut i wisgo colur addas yn effeithiol. Er mwyn arddangos hyn, y model am y noson oedd Mrs. Myra Thomas, ac yn wir, roedd yn edrych yn arbennig! Noson ddiddorol ac addysgiadol.
Yna ar Mai 13eg, cynhaliwyd ein arwerthiant blynyddol, gyda rhan o’r elw yn mynd at Gronfa Achub y Plant,- sef elusen Mudiad Merched y Wawr am eleni.
No comments:
Post a Comment