Nos Lun Mawrth 21ain, yn absenoldeb ein Llywydd croesawyd ein gwesteion yn gynnes gan Mrs Sal Samuel, sef Mrs Ann Walters Brynaman a Brenda a John Evans Clydach. Bywyd a Gwaith Abiah Rodreick oedd ganddynt o dan sylw. Cawsom hanes y dyn talentog â dawn arbennig i lunio cerddi o’r doniol i’r dwys, cerddi ar gyfer plant ac oedolion, a storïau byrion. Ysgrifennai yn nhafodiaeth Cwm Tawe .. Cawsom enghreifftiau o’i waith yn cael eu darllen gan Ann Walters a Brenda Evans, a gwrando ar recordiad o Rachel Thomas a George David yn darllen eu storiau. Canodd ‘Bois Y Blacbord’ ei waith, ac i gloi’r noson clywsom Hogiau’r Wyddfa yn canu ‘Tecel’ Diolchwyd iddynt am noson ddiddorol, gan Mrs Sal Samuel hithau fel y gweddill o’r aelodau wedi dysgu mwy am y dyn a ddisgrifiwyd fel ‘tonic’.
No comments:
Post a Comment