Cynhaliwyd Cymanfa Undebol Cwmaman yng Nghapel Bethesda, Glanaman ar fore Sul y Blodau eleni. Y Llywydd oedd Mrs. Derith Powell, Capel Bethesda , ac fe groesawodd bawb i’r oedfa arbennig hon. Rhoddodd gyflwyniad arbennig i’n Harweinyddes eleni sef Mrs.Janet Bowen-Jones, Castell Nedd, ac roedd yn ysbrydoliaeth unwaith yn rhagor i’w chael i’n harwain. Ein Horganyddes oedd Mrs.Olwen Richards, Rhydaman a gyflawnodd ei swydd yn raenus fel arfer. Darllenwyd rhan o’r Ysgrythur yn ystyrlon iawn gan Nyri Cynningham, Bethel Newydd, a chafwyd gweddi angerddol gan Rhian Jones, Bethesda ,. Ynghanol y Gymanfa, cafwyd eitem gan dair o chwiorydd Capel Bethel Newydd, sef Pat Davies, Carol Howells a Mair Wyn, a dewiswyd darlleniadau gwych ganddynt. Diolchodd y Parchedig Peter Davies i bawb a gymrodd rhan a rhoddodd glod arbennig i’n Harweinyddes am dynnu allan o bawb ohonom y canu gorau. Cafwyd gweddi bwrpasol ganddo i gloi’r oedfa arbennig hon. Dymuna’r Pwyllgor ddiolch i bawb a’n cefnogodd eleni eto a gobeithiwn y bydd ein Cymanfa yn mynd o nerth i nerth yn y dyfodol.
No comments:
Post a Comment