Mefus y Gelli gyda Dai ei Gŵr yn Ne Affrig
Llongyfarchiadau mawr i Mrs Mefus Williams, Fferm y Gelli, Glanaman ar gyrraedd ei 80 oed yn ddiweddar. Cafodd Mefus ei geni ym Maesybont gerllaw Carmel ac roedd ganddi ddau frawd. Tyddyn bach oedd y cartref a’i thad yn lowr wrth ei alwedigaeth. Mynychodd Mefus Ysgol Maesybont ac yna Ysgol Llandybie. Gorffennodd ei dyddiau ysgol yn 1945 ac aeth i weithio yn Ysbyty Penlan, Caerfyrddin am chwe blynedd. Yna bu gorfod iddi rhoi’r gorau i’w swydd a dychwelyd adre i helpu ei mam oherwydd salwch ar yr aelwyd. Roedd Mefus yn hoffi mynd i glybiau’r Ffermwyr Ieuanc ac un noson aeth i ddawns oedd yn cael ei chynnal yn Neuadd y Pale yn y Garnant lle cyfarfu â Dai, ei gŵr. Priododd â Dai yn 1955, diwrnod ar ôl cael ei 24 oed, yng Nghapel Milo ac ymgartrefodd y pâr ifanc yn Fferm y Gelli. Roedd teulu Dai yn wreiddiol o Nantycrugle, ond erbyn hyn, mae fferm y Gelli wedi bod yn ei deulu am bedair cenhedlaeth. Pan briodon nhw, roedd Dai yn ei waith dyddiol yn dreifio injin yn y gwaith Glo Brig gerllaw, a Mefus adref yn codi ei theulu.
Mae ganddynt chwech o blant – Margaret Wyn, yr hynaf, yn Ofalwraig Yswiriant Antur yn Rhydaman, Irene yn Ohebydd Papur Newydd yn Ne Affrig ac wedi rhoddi cyfweliad i Nelson Mandela. Mae Lucie yn byw yn Llandeilo ac Enid yn Llandybie, mae Arwyn yn gweithio adref gyda pheiriannau y Gelli Plant, a Sarah yn cael ei chyflogi yn Yswiriant Antur gyda Margaret Wyn, ei chwaer. Mae Mefus a Dai bellach yn Famgu a Thatcu i un-ar-ddeg o wyrion, gyda’r hynaf, Sian , yn ddau ddeg pedwar oed a’r ieuengaf, Eirin Mai, ond yn chwech wythnos oed.
Mae Capel y Tabernacl, Glanaman yn agos iawn at galon Mefus ac mae wrth ei bodd yn gweld ei theulu yn mynychu’r Ysgol Sul yno.
Dymunwn bob hwyl i Mefus i’r dyfodol a iechyd da. Gobeithio ichi fwynhau’r penblwydd arbennig hwn, Mefus, ac hefyd y dathliad o fod yn briod am 56 mlynedd.
No comments:
Post a Comment