Dydd Sul 17 Ebrill ar Sul y Blodau cynhaliwyd Cymanfa Ganu Undebol Rhydaman a'r Cylch yng Nghapel Gellimanwydd. Daeth aelodau a ffrindiau o gapeli Gellimanwydd, Y Gwynfryn, Moreia, Seion, Capel Newydd, Bethani, Gosen, Capel Hendre, Caersalem ac Ebeneser ynghyd i gymryd rhan yn y Gymanfa.
Yr Arweinydd oedd Mr Eifion Thomas, Llanelli, Mae Mr Thomas yn adnabyddus drwy Gymru gyfan fel arweinydd Cor Meibion Llanelli ac yn denor dawnus. Cafodd Mr Thomas gefnogaeth broffesiynol medrus Mrs Gloria Lloyd yn ystod y ddwy oedfa.
Roedd Gymanfa'r plant yn y bore am 10.30 ac yna Gymanfa'r oedolion am 5.30 yr hwyr. Cawsom Gymanfa gwerth ei dathlu yng nghwmni Eifion Thomas ac roedd yntau yn cael y gorau allan o'r plant a'r oedolion.
No comments:
Post a Comment