Ar ddiwrnod hyraf y flwyddyn, Mehefin 21ain, roedd capel Gellimanwydd, Rhydaman, am y tro cyntaf yn ei hanes, yn gyrchfan i chwiorydd yr Annibynwyr, Talaith y De, i’w cyfarfod blynyddol. Yn ystod y gwasanaeth cafodd Bethan Thomas, Tycroes yn cael ei hurddo yn Lywydd yr Adran gan olynu Mrs. Carys Williams, gweddw’r diweddar Barchedig Meurwyn Williams, Rhosaman.
Bu Bethan yn Ysgrifennydd Talaith y De am nifer fawr o flynyddoedd a chael cyfle i gwrdd a gweithio gyda chwiorydd o Gasnewydd i Aberdâr ac i Lambed. Hi yw Ysgrifennydd Gellimanwydd, yn athrawes Ysgol Sul ac yn gyfrifol am drefnu y Drws Agored a gynhelir yn Neuadd Gellimanwydd bob bore Iau. Y mae hefyd yn Drysorydd Cangen Rhydaman o Ferched y Wawr ac yn aelod o bwyllgor Pensiynwyr Tycroes.
Yn ystod y gwasanaeth yng Ngellimanwydd roedd grŵp o chwiorydd o’r Adran Genhadol, sef aelodau o Moreia, Tycroes, Y Gwynfryn a Gellimanwydd, Rhydaman yn cyflwyno eitem. Mrs. Hazel Charles Evans, Llandybïe oedd yn annerch.
No comments:
Post a Comment