Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

19.7.11

Pwerdy Iaith


Daeth llu o drigolion Cymoedd Aman a Thawe ynghyd yng Nghanolfan y Mynydd Du Brynaman nos Lun 13 Mehefin er mwyn lansio a sefydlu pedwar Pwerdy Iaith yn yr ardal fel rhan o Gynllun Hybu’r Gymraeg Aman Tawe.

Mae’r Cynllun newydd yma yn cael ei hyrwyddo a’i weithredu gan swyddogion Bwrdd yr Iaith Gymraeg a swyddogion Menter Bro Dinefwr, Menter Castell-nedd Port Talbot a Menter Brycheiniog a Maesyfed. Nod y Cynllun yw codi’r ymwybyddiaeth a’r defnydd o’r iaith Gymraeg yng nghymunedau  Aman Tawe ac i egnïo a bywiocau gweithgareddau ieithyddol a diwylliannol ar draws yr ardal.

Gan groesawu pobl i’r Lansiad dywedodd Meirion Prys Jones, Prif Weithredwr Bwrdd yr Iaith Gymraeg:

“Ardal y glo carreg, cartref chwaraewyr rygbi fel Gareth Edwards a Shane Williams a diddanwyr fel Ryan Davies a Huw Chiswell...ardal Aman Tawe yw un o ardaloedd mwyaf cyfoethog y Gymraeg. Ond erbyn hyn mae’r Gymraeg mewn perygl o golli tir yn sylweddol. Mae lansio’r Pwerdai Iaith lleol hyn yn gyfle i fynd ati a thrafod y camau ymarferol nesaf o ran sut gellid diogelu’r Gymraeg i genedlaethau’r dyfodol yn yr ardal arbennig hon”.

Cafwyd cyflwyniadau hefyd gan swyddogion Bwrdd yr Iaith Gymraeg, Sali Islwyn, (Cyfarwyddwr Datblygu Cymunedol); Dilwyn Jones, (Rheolwr Rhanbarth y De Orllewin); a Llew Davies, (Cydlynydd Prosiectau Cynllun Hybu’r Gymraeg Aman Tawe).

Bydd y Pwerdai Iaith yn mynd ati dros yr wythnosau nesaf i weithio ar brosiect a elwir yn “Balchder Bro”. Bydd yn gyfle i bobl leol greu DVD yn hyrwyddo eu hardaloedd gyda’r nod o hybu brwdfrydedd a balchder yn y gymdogaeth ac yn yr iaith Gymraeg. Roedd yna ddigonedd o frwdfrydedd i weld yn ystod Lansiad y Pwerdai Iaith gyda phobl leol yn byrlymu gyda syniadau cyffrous ynglŷn â gweithgarwch i sicrhau dyfodol lewyrchus i’r Gymraeg yn ardal yr Aman Tawe.  

Bydd croeso cynnes i bawb sydd â diddordeb yn nyfodol y Gymraeg o fewn yr ardal gyfrannu i’r Cynllun newydd cyffrous yma. Am fanylion pellach, cysylltwch â Rhys Davies, Swyddog Datblygu Cynllun Hybu’r Gymraeg Aman Tawe, ar 01269 825790 / rhys.davies@byig-wlb.org.uk

No comments:

Help / Cymorth