Yn rhifyn diwethaf Glo Mân cawsom hanes Huw Thomas, mab Eirwen a Raymund Thomas, Llanedi yn enill pencampwriaeth “Rookie” Ewrop a’r D.U. Gofynion y ras oedd seiclo am ddeuddeg awr yn ddi-stop erbyn rhai o feicwyr gorau Ewrop. Cwblhaodd Huw 10 lap o’r cwrs 18 km – rhyw 110 milltir - ar drac coediog serth oedd yn dringo i fyny hyd at 4500m mewn 11 awr a 5 munud.
Mae Huw yn aelod o dîm De Cymru ‘Loco BM Racing’. Mae wedi bod yn beicio ers chwe mlynedd, ond hon oedd ei ras 12 awr unigol gyntaf. Roedd yn brofiad ac achlysur arbennig iawn, pawb yn llawn hwyl a phibydd traddiodiadol yr Alban yn ei arwain o’r pentref i’r trac a dechrau’r ras.
Mae Huw wedi cael cyfnod hynod lwyddiannus ac ymhlith ei lwyddiannau diweddar oedd cael yr amser cyflyma yn ras 100km Macmillan yn Afan Argoed.
Ras fawr diwetha Huw oedd 400km dros 7 niwrnod yn seiclo o Vancouver i Whistler yng Nghanada. Bu yn cystadlu yn erbyn rhai o feicwyr gorau’r byd o 22 gwlad. Mae’n ffodus iawn ei fod wedi cael ei dderbyn i’r ras hon gan eu bod yn derbyn beicwyr profiadol a llwyddianus yn unig.
Dywed Huw ei fod yn teimlo’n ffodus iawn i allu gweithio fel Rheolwr Prosiectau i’r Comisiwn Coedwigaeth yng Nghymru a hefyd mwynhau bod allan yn yr awyr iach wrth ddilyn ei hobi.
Mae’n adeiladu beiciau ei hun ac erbyn nawr yn cael ei gydnabod fel beiciwr arbennig o dda gan nifer o gwmnïau ym Mhrydain sy’n ei noddi drwy gynnig offer a nwyddau beicio iddo.
No comments:
Post a Comment