Fel rhan o ddathliadau pen blwydd Ffederasiwn Sefydliad y merched Sir Gâr bydd Heledd Cynwal yn lawnsio CD cyntaf y Ffederasiwn Sir 'Sgwd y Gân / Cascade of Song' ar nos Wener Hydref 7fed yn Festri Capel Newydd Llandeilo. Bydd Côr Zenaphonics a Parti Llefaru Merched Bancyfelin yn cymryd rhan.
Ffurfiwyd y Côr sydd yn cynnwys aelodau o ‘r WI ar draws y sir, dwy flynedd yn ôl, pan gynhaliodd y Ffederasiwn Gyngerdd Nadolig Dilyn y Seren. Mae enw’r Côr yn deillio o enw’r arweinydd Zena Jenkins. Roedd Parti Llefaru Merched Bancyfelin yn enillwyr haeddianol yn Eisteddfod Cymru Sefydliad y Merched diwethaf.
No comments:
Post a Comment