Ar ddydd Iau, Medi 29, 2011 yng Nghapel Seion Newydd, Treforus, anrhydeddwyd Mrs. Dilys Richards, Capel y Tabernacl, Glanaman a medal Mr.a Mrs.Thomas Gee am ei ffyddlondeb ers yn naw mlwydd oed yn mynychu’r Ysgol Sul a’r Capel. Ar hyd y blynyddoedd bu’n Athrawes Ysgol Sul, Llywydd, Ysgrifenyddes a Thrysoryddes Pwyllgor Eglwysi Rhyddion adran Rhydaman, ac mae’n dal i fod yn weithgar tuhwnt ar ran y Capel. Fe fyddai tatcu Dilys sef y diweddar Ifan Llewellyn, yn falch iawn ohoni, gan ei fod yntau wedi bod yn Flaenor yng Nghapel y Tabernacl ar hyd y blynyddoedd. Yn y llun gwelir Dilys yn cael ei hanrhydeddu gan y Parchedig Eirian Wyn, cyn-weinidog ar Gapel Bethesda, Glanaman, gyda’r fedal Gee.
No comments:
Post a Comment