Pan
oedd Kieran James o Frynaman Isaf(gynt o Waun-Cae-Gurwen) yn fyfyriwr deunaw
oed yn Abertawe yn dilyn cwrs Hamdden a Thwristiaidd, bu’n rhaid iddo drefnu
profiad gwaith pwrpasol ac ymarferol er mwyn cael syniad o’r gwaith yn y maes
yma.
Penderfynodd
Kieran fynd i’r Amerig a gweithio i gwmni gwestai y Ritz-Carlton sydd yn fyd
enwog am ei gwestai moethus sy’ gyda’r goreuon yn y byd. Ar ol iddo gael ei
dderbyn, hedfanodd Kieran o Heathrow i Denver ddiwedd mis Mai 2007 a threuliodd
bedwar mis yn gweithio yn y Ritz-Carlton,Bachelor Gulch,Beaver Creek ym
mynyddoedd y Rocky, Colarado. Tra yno, cafodd hyfforddiant arbennig sut i
gynnig y gwasanaeth gorau i gwsmeriaid. Mwynhaodd Kieran y profiad yn fawr iawn
ac o ganlyniad pan ddychwelodd adref, penderfynodd gynnig am swydd gyda chwmni
Ritz-Carlton.
Mis
ar ol iddo gyrraedd adre roedd ar ei ffordd i’r Iwerddon ac ym mis Hydref 2007
dechreuodd ar ei swydd newydd yn y Ritz-Carlton,Powerscourt, Enniskerry(tua 12
milltir I’r de o Ddulyn) .O fewn blwyddyn
cafodd swydd yn uwch a threuliodd y dair blynedd nesa yn dysgu mwy am
waith y “concierge”. Yn ystod y cyfnod yma cafodd ei dderbyn i Gymdeithas Les Clefs D’or yn Iwerddon a Kieran yw’r
aelod ifanca iddynt dderbyn erioed .Cafodd Kieran y dasg yn y deunaw mis olaf
yno i ddatblygu adran golff yn y gwesty
a gofynnwyd iddo fod yn gyfrifol am yr adran yma.Llwyddodd i greu adran
lwyddiannus, lewyrchus dros ben yn y gwesty. Gwnaeth Kieran lawer iawn o
ffrindiau yn Iwerddon a chafodd brofiad arbennig iawn yno.
Yn
Awst 2011, cynigwyd swydd i Kieran fel
rheolwr yn y Celtic Manor Resort yng Nghasnewydd.Ar hyn o bryd mae’n gyfrifol
am nifer fawr o staff yn cynnwys “doormen””porters””bell boys” a’r”concierge”.Ei
brif nod yw fod y gwesteion yn derbyn y gwasanaeth gorau posib ac fod eu
hymweliad a’r gwesty yn brofiad cofiadwy. Yn y gwesty pum seren yng Nghasnewydd
mae Kieran yn gofalu bod ‘na wasanaeth pum seren hefyd.
‘Dyw
Kieran ddim yn gweithio oriau gwaith arferol, mae e yno nes ei fod yn gwbl
fodlon fod pethau yn iawn cyn ei fod yn gadael. Mae mwy na 300 o ystafelloedd
gwely yn y gwesty ac felly mae’n le prysur iawn ac mae’n rhaid ei fod yn barod I
ddelio ag unrhyw broblem ar unrhyw adeg.Yn ogystal mae Kieran a’i staff yn
cynnig gwybodaeth i’r gwesteion am atyniadau lleol ac yn trefnu iddynt ymweld
a’r lleoedd hyn.
Pan
fo pethau yn dawelach ac yn llai prysur mae Kieran wrth ei fodd yn cwrdd a
siarad a’r gwesteion ac mae’n awyddus hefyd i glywed eu barn am y gwasanaeth yn
y gwesty.
Yn ddiweddar ymwelodd parti o Dycroes a’r Celtic Manor i
gael te. Roedd modryb Kieran sef Mrs Eileen Evans o Heol Penygarn, Tycroes yn y
parti ac fe wnaeth Kieran yn siwr eu bodi gyd wedi cael amser da yno.
Dymunwn
pob lwc i Kieran yn y dyfodol ,a cofiwch
os ydych yn mynd i’r gwesty, gofynwch am Kieran a bydd wrth ei fodd yn eich croesawu yno.Mae Kieran yn fab i Mike
a Meril James,Swyddfa’r Post, Brynaman Isaf. Bydd amryw o ddarllenwyr Glo Man
yn cofio’r teulu yn byw yn heol Cae Gurwen( gyferbyn a garej Beti Rees.)
No comments:
Post a Comment