Mae Seren
Medi Morse wedi bod yn brysur iawn yn ddiweddar. Mae hi erioed wedi
mwynhau cerddoriaeth ac mae hi’n canu’r piano ac yn cael gwersi canu. Mae hi
wrth ei bodd hefyd yn perfformio ac wedi gwneud hynny ers yn ifanc iawn mewn
eisteddfodau lleol ac yn Eisteddfodau yr Urdd.Mae yn ddisgybl yn Ysgol Berfformio Mark Jermaine ac mae hi
wedi cymeryd rhan mewn nifer o sioeau yn cynnwys sioe “Annie” yn y Grand yn
Abertawe.
Cafodd Seren
wahoddiad i ganu ar ei phen ei hun ym Mhort Talbot pan oleuwyd y goleuadau Nadolig. Deg mlwydd oed yw Seren ac mae hi a’i
theulu yn byw yn Pil ger Port Talbot. Yn ddiweddar bu hi’n ffilmio gyda criw Casualty
ac mae hi hefyd yn y cynhyrchiad diweddaraf o “Upstairs, Downstairs” a fydd yn
ymddangos ar y teledu y flwyddyn yma.
Mae’n amlwg
fod Seren wrth ei bodd yn canu ac yn actio ac edrychwn ymlaen i’w gweld yn y
ddwy rhaglen.
Llun:
Seren(ar ydde) gyda’i chwaer fach Mali ac mae’r ddwy yn ddisgyblion yn Ysgol y
Ferch o’r Sger ym Mhorthcawl.
Mae Seren a
Mali yn wyresau i Glenda a Brian Harrison, Heol Brynaman a Mrs Maggie Morse Red
Roofs.
Pob dymuniad
da I Seren a Mali I’r dyfodol.
No comments:
Post a Comment