Bu Sioe Stryd Gŵyl Ddewi yn
lwyddiant ysgubol eleni eto yn Stryd y Cei Rhydaman. Trefnwyd y digwyddiad gan Menter Bro Dinefwr
ar y cyd gyda nifer o bartneriaid megis Bwrdd yr Iaith, Twf a Gwasanaethau Ieuenctid
y Cyngor Sir. Roedd
y digwyddiad
yn gyfle I arddangos talentau lleol.
Cafwyd perfformiad dawnsio gwerin gan Ysgol Gymraeg Rhydaman, a
perfformiadau lliwgar o ganu swynol gan Ysgolion Llandybie, Parc-yr-hun a
Dyffryn Aman. Yn rhan o'r dathlu
cynhaliwyd ‘Parti Dewi’ yng Nghaffi Per Cup, Rhydaman. Fe ddaeth dros ugain o
deuluoedd lleol i'r lleoliad er mwyn cymryd rhan yn y gweithgareddau a chael
llaeth poeth a phice ar y maen. Braf oedd gweld y plant bach yn eu gwisgoedd
traddodiadol.
Rhaid diolch i Faer y Dref sef Irena Hopkins am agor y Sioe ac i’r partneriaid am eu cymorth a’u cefnogaeth wrth drefnu a
hefyd yn ystod y dydd. Mae’n amlwg o lwyddiant y diwrnod fod y Sioe Stryd yn
ddigwyddiad sy’n mynd o nerth i nerth a hefyd yn gyfle gwych i wahanol fudiadau
gyd-weithio gyda’i gilydd ac i godi eu proffil o fewn y gymuned. Hoffem ddiolch
i bawb am eu gwaith caled ac edrychwn ymlaen at Sioe Stryd 2013!
No comments:
Post a Comment