Côr
Merched Lleisiau’r Cwm yn fuddugol yn yr Ŵyl Ban Geltaidd yn Carlow.
Mae
Côr Merched Lleisiau’r Cwm o Ddyffryn Aman wedi bod yn llwyddiannus eleni yn yr
Ŵyl Ban Geltaidd yn Carlow yn yr Iwerddon. O dan hyfforddiant Catrin Hughes,
mae’r côr wedi ennill y wobr gyntaf yn y gystadleuaeth i Bartion Unsain o blith
saith côr o’r gwledydd Celtaidd, a’r ail wobr yn y gystadleuaeth i Gorau
Merched. Roedd y gystadleuaeth o blith y Cymry yn frwd eleni wrth i Ysgol
Glanaethwy, Parti’r Efail, Hogia’r Berfeddwlad, Lleisiau’r Cwm ac Aelwyd yr
Ynys, ymhlith rhai, frwydro am
fuddugoliaeth yn y cystadleuthau amrywiol. Dros y blynyddoedd mae Lleisiau’r
Cwm wedi profi cryn lwyddiant wrth iddynt ennill teitl anrhydeddus ‘Côr Merched
Cymru S4C’ yn 2005, a’r trydydd safle yn
Eisteddfod Rhyngwladol Llangollen yn 2006, Maent wedi cipio’r wobr gyntaf yn
Eisteddfod y Glöwyr Porthcawl deirgwaith yn olynol, ac maent yn wynebau
cyfarwydd ar raglenni fel ‘Dechrau Canu Dechrau Canmol’ a‘r ‘Noson Lawen’ ar
S4C. Maent hefyd yn wynebau cyfarwydd ar lwyfannau’r Genedlaethol wrth gipio’r
wobr gyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol Glyn Ebwy yn 2010 yn y ‘Cyflwyniad ar
lafar ac ar gân’. Maent yn gôr sy’n perfformio’n gyson mewn cyngherddau
elusennol, a thros y blynyddoedd maent wedi codi miloedd o bunnoedd tuag at
achosion da yn eu hardal. I ddathlu pymtheg mlynedd o’u sefydlu yn 2011 fe
godwyd £2,000 mewn noson Gabare yng Nghanolfan Aman Rhydaman â’r elw i Bobath
Cymru, ac yn eu cyngerdd Nadolig ym Methel Garnant fe godwyd £1,600 i Gymdeithas
Alzheimer’s. Hoffai’r Côr ddiolch i bawb am eu cefnogaeth ac am eu dymuniadau
gorau wrth baratoi ar gyfer y gystadleuaeth, ac edrychant ymlaen yn eiddgar i gyfarfod eu ffrindiau Celtaidd eto y
flwyddyn nesaf.
No comments:
Post a Comment