Llongyfarchiadau mawr i Beverley Edwards,
Siop Trin Gwallt, Glanaman ar ddathlu ar yr 19fed o Ebrill, ei 25 mlynedd mewn
busnes. Y mae Beverley wedi gweithio’n
ddygn iawn dros y blynyddoedd yn Rhydaman, Garnant a Glanaman ac y mae ganddi
ei nith, Lisa, yn gweithio gyda hi hefyd.
Mae’r ddwy yn arbennig yn eu maes a dymunwn bob llwyddiant iddynt i’r
dyfodol. Ymlaen â thi i’r cwarter canrif
nesaf, Bev.
No comments:
Post a Comment