Yr oedd yn ddiwrnod arbennig iawn i
Mrs.Muriel Powell pan fu dathliad o’i phenblwydd yn 90 oed yn achlysur arbennig
iddi. Cafwyd gwledd a ddechreuodd am 3
o’r gloch y prynhawn yng Nghlwb Golff y Garnant – lle bendigedig gyda golygfa i
dynnu’r anadl ohonoch. Bu ei theulu, ei ffrindiau
niferus a’i chymdogion yn dathlu (a rhai ohonynt wedi teithio gryn bellter) ac
fe fydd Muriel yn cofio’r diwrnod hwn am byth, rwy’n siwr. Hyfryd oedd gweld ei gŵr, sef Dr.Frank Powell yn ein mysg ac yntau ddim
cant y cant ei iechyd, ond yr oedd ef hefyd wrth ei fodd yn sgwrsio gyda phawb
ac yn’ browd’ iawn o’i gymar. Yn y llun
gwelir Muriel Powell gyda’i theisen a dymunwn bob hwyl a iechyd da iddi i’r
dyfodol. Ymlaen yn awr i’r cant gan
ddisgwyl ymlaen yn eiddgar am y telegram pwysig hynny oddiwrth y Frenhines.
No comments:
Post a Comment