Hyfryd oedd gweld unwaith eto ystafell yn byrlymu o bobl frwdfrydig yng
Nghlwb Rygbi Rhydaman yn barod i ateb cwestiynau'r cwis feistr Edwyn Williams.
Cafwyd amrywiaeth o dimau gan gynnwys grŵp o ddysgwyr yn rhoi cynnig ar y
cwestiynau ac fe hoffwn ychwanegu yn rhoi cynnig da!! Mae’r llongyfarchiadau mwyaf yn mynd i’r
enillwyr sef tîm aerobeg Rhydaman a gwelwch yn y llun fe enillwyd crysau-t
newydd ‘Partneriaith’! Mae’n braf gen i ddweud yn dilyn llwyddiant y
cwisiau cyffredinol Cymraeg yma, fe fydd cwis arall yn cael ei drefnu ym mis
Mehefin. Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y cwisiau neu am waith y tîm
‘Partneriaith’ mae croeso i chi
gysylltu â Sarah Jones yn swyddfa’r Fenter.
No comments:
Post a Comment