Ar Nos Sul, Mai 27ain,cafwyd cyfle i weld aelodau o Adran Penrhyd yn perfformio yn Neuadd Llandybie. Mae Adran Penrhyd yn defnyddio'r Neuadd i ymarfer o dan arweiniad di-flino Jennifer Maloney a’i merch, Karen Davies. Cafwyd nifer o eitemau ychwanegol hefyd gydag oedran y perfformwyr yn ymestyn o 4 i 25 oed! Noson wych- gyda phawb yn canmol yr aelodau ac yn dymuno’n dda iddynt yn Eryri.
Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, bu’n rhaid i Jennifer dderbyn llawdriniaeth ac yna sesiynau o dan ofal Adran Oncoleg Ysbyty Singleton. Fel arwydd o ddiolch am y gofal a gafoddd yno, penderfynodd Leah,merch-yng-nhyfraith Jennifer, redeg Hanner Marathon Llanelli i godi arian tuag at yr Adran, ac yn ystod y cyngerdd, cyflwynodd Leah siec o £500 i’r Dr. Karen Parker.
Mae’r teulu am ddiolch i bawb a noddodd Leah ac a fu’n gefnogol iddynt yn ystod y cyfnod
anodd hwn.
No comments:
Post a Comment