Wedi llwyddiant yn Eisteddfod yr Urdd eleni dyma ni
nawr yn barod i gystadlu yn yr Eisteddfod Genedlaethol.Lleolwyd yr Eisteddfod
ar hen faes awyr Llandw.Cafwyd glaw a gwynt ar ddechre’r wythnos a’r lle yn fwd
i gyd. Ond erbyn dydd Mercher roedd yr
haul yn disgleirio a phawb yn mwynhau’r tywydd braf wrth grwydro’r maes.Ar y
dydd Mercher roedd Cystadleuaeth dawnsio gwerin dan 25 oed.Roedd gwisgo brethyn
crys a chrafat yn y gwres yn waith caled
yn y gwres brynhawn dydd Mercher!
Roedd tri pharti wedi cystadlu i ddawnsio Pont Caerodor ac roeddwn yn sobor o falch mai ni,
ddawnswyr Penrhyd a ddaeth i’r brig unwaith eto.
Roeddwn yn cystadlu eto dydd Sadwrn yng nghystadleuaeth Tlws Cymdeithas Ddawns
Werin Cymru.Dewisom ni ddawnsio Sawdl y Fuwch. Roedd saith parti yn y
gystadleuaeth,tri pharti ar y llwyfan am 1 30 a’r pedwar parti arall yn dawnsio
am 3 30.Roedd hi’n gystadleuaeth o safon uchel iawn a chawsom ni y drydedd
wobr. Roedd pawb yn falch dros ben ac wedi mwynhau’r gystadleuaeth.
Edrychwn ymlaen at Eisteddfod yr Urdd yn Sir Benfro yn
2014!
Owain Morris, Brynaman.
No comments:
Post a Comment