Tybed faint o gyn-ddisgyblion yr hen ‘County School’ yn Rhydaman sy’n cofio’r ‘waedd’ oedd gyda ni? Fe fues i’n chwarae yn nhîm hoci’r ysgol, ac rwy’n cofio’n fyw iawn y ‘waedd’ oedd gyda ni cyn dechrau gêm yn erbyn rhyw ysgol arall. Byddem yn ffurfio cylch, ac yn pwno’r borfa â’n ffyn hoci i rithm y geiriau canlynol:
Dyma ni’n dod, te carte, carte,
Rwmpwse corpwse, rwmpe rwmpe,
Aragose, aragose, peragose, peragose,
Ianto coes mochyn, i lawr ag e, lawr ag e,
Tacla fe, tacla fe,
Moga fe, moga fe,
Bw, ba, tre see la,
Rhydaman yw y gore, y gore, y GO - O - O - RE
Tybed a oedd y waedd yn codi dychryn ar ein gwrthwynebwyr? Gwaetha’r modd, dydw i ddim yn cofio faint o gemau wnaethom ni ennill. A dydw i ddim yn cofio chwaith os oedd timau’r bechgyn mor anwaraidd â ni’r merched.
No comments:
Post a Comment