Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

24.11.12

Whose Coat is That Jacket?


Mae “Whose Coat Is That Jacket?” yn teithio Cymru yn ystod mis Medi a Hydref.  Chwaraeir un o’r cymeriadau gan Rhys Wadley o Gwaun-Cae-Gurwen.  Mae Rhys yn chwarae rhan Bleddyn, sef mab teulu nodweddiadol o Drimsaran sy’n angerddol am rygbi.  Comedi yw’r ddrama a ysgrifennwyd gan Jack Llewellyn a ‘r cyfarwyddwr yw Maxine Evans.  Roedd y noswaith yn un bleserus dros ben.
Mab Eiry a Jeremy Wadley yw Rhys, a gafodd hyfforddiant yn yr Academi Frenhinol Cerdd a Drama yng Nglasgow.  Mae Rhys wedi perfformio mewn amryw rolau tra bod yn coleg, gan gynnwys Romeo yn “Romeo & Juliet”, Trevor Helmer yn “A Doll’s House”, Mitch yn “A Street Car Named Desire” a Shamrayev yn “The Seagull”.
Ers iddo raddio mae wedi perfformio gyda  Dundee Repertory Theatre  – Eilif yn “Mother Courage and her Children”; Y Tywysog mewn Panto Cinderella yn y Citiizen Theatre yng Nglasgow;  Konstantine,  “The Seagall” yn Theatre Frenhinol York;  Cian yn “Blackthorn” gan Garry Owen ac Adam yn “Bruised” gan Matthew Trevannion, y ddau yn Clwyd Theatre Cymru.
Roedd hi’n bleser pur I fynd i Theatr y Grand yn Abertawe ac ymfalchio fod y crwt talentog yma yn dod o’r ‘Waun. Edrychwn ymlaen at ei berfformiad nesa’. Llongyfarchiadau i ti Rhys

No comments:

Help / Cymorth