“Noson Allan” yng nghwmni Rhian Morgan
a Llio Silyn – dyna a gafwyd yn ddiweddar. “ Dim on Dwy”
oedd enw’r cyflwyniad, a bu’r ddwy wrthi’n ein diddanu gyda
darlleniadau, barddoniaerth,
llenyddiaeth, straeon ac ambell gân – i gyd yn ymwneud â bywyd menywod.
Cawsom y llon a’r lleddf, y digri a’r dwys, y cyfan wedi ei blethu’n gywrain i
greu adloniant pur. Ymunodd rhai o
aelodau cangen Pontardawe â ni a braf hefyd oedd gallu croesawu tair aelod o
ddosbarth y Dysgwyr ym Mrynaman i’n plith. Ym mis Tachwedd daeth Huw Rees i’r cyfarfod. Tybed pwygafodd gwedd
newydd? Cewch wybod yn fuan.
No comments:
Post a Comment