Dymuniadau da i
Mrs.Betty Watkins, Heol y Glyn, Glanaman ar ddathlu ei phenblwydd yn 90 oed ar
yr 17fed o Ragfyr. Mae Capel
y Tabernacl yn agos iawn i’w chalon ac hefyd mae wedi bod yn gweithio yn galed
dros y blynyddoedd gyda sawl mudiad yn y Cwm.
Gwerthfawrogwn hyn yn fawr, Betty, gan obeithio bod yr iechyd yn well
gennych. Mae’n ffodus bod ganddi dri o
blant ac hefyd wyrion a gor-wyrion.
Gobeithiwn fod Betty wedi mwynhau’r diwrnod a dymunwn iechyd da iddi i’r
dyfodol.
No comments:
Post a Comment