Ydych chi’n siaradwr Cymraeg sy’n
chwilio am gyfle i ddatblygu eich sgiliau ysgrifennu? Ydych chi’n adnabod rhywun hoffai gyfle fel
hyn?
Mae
Canolfan Cymraeg i Oedolion De Orllewin Cymru wedi trefnu dosbarthiadau Graenus
newydd sbon yn yr ardal. Bydd y rhain yn
dechrau ym mis Chwefror ac yn rhedeg yn wythnosol (ac eithrio gwyliau’r ysgol)
am 15 wythnos.
Mae’r
cwrs Graenus yn gyfle i ddatblygu
sgiliau cyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg a chodi hyder wrth siarad ac
ysgrifennu.
£40 yw pris llawn y cyrsiau wythnosol (neu £25 os ydych
chi’n gymwys i dderbyn consesiwn).
Mae’r
cwrs yn edrych ar sut mae gramadeg, sgiliau ysgrifennu a chyfathrebu, cyfle i ddysgu mewn
awyrgylch cyfeillgar, hwyliog ac anffurfiol.
Dewch i
gofrestru ar gyfer y cwrs cyntaf Llyfrgell Rhydaman, Dydd Llun 18 Ionawr am
10.00.
3 comments:
Beth ydy'r gwahaniaeth rhwng Cymraeg Graenus a Gloywi Iaith os gwelwch yn dda?
Mae'r ddau yr un peth. Cymraeg graenus yw'r enw ar y cyrsiau mae Canolfan Cymraeg i Oedolion De Orllewin Cymru yn eu rhedeg.
Post a Comment