Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

7.2.13

Teyrnged Arbennig - Mr John G. Thomas


Yr oedd bore Sul, 17fed o Rhagfyr yn achlysur arbennig iawn i Gapel Bethel Newydd pan anrhegwyd Mr. John G.Thomas ar ei ymddeoliad ar ôl 52 o flynyddoedd wrth y llyw yn Ysgrifennydd Cyffredinol y Capel.  Etholwyd John i’r swydd bwysig yma yn 1960 ac fe benderfynodd rhoi’r gorau iddi yn 2012.  Yn y llun gwelir John gyda’i wraig, Kathleen, ac hefyd Ronald James, Cyhoeddwr y Capel.  Cafodd John dystysgrif arbennig am ei waith di-flino ac hefyd siec swmpus am ei wasanaeth clodwiw dros y blynyddoedd.  Cafodd Kathleen dusw o flodau gan Janice Thomas, ein hysgrifenyddes Ariannol  a Thrysoryddes gan fod (yn ôl geiriau Ronald) gwraig dda y tu cefn i bob dyn da.  Yr oedd yn achlysur i’w gofio ac yr ydym ni fel aelodau o’r Capel yn gwerthfawrogi’n fawr y llafur caled mae John wedi ei gyflawni dros y 52 o flynyddoedd.  Dymunwn pob llwyddiant i Miss Meinir Jones am gymryd at yr awennau yn y dyfodol a gwerthfawrogwn hyn yn fawr iawn. 

No comments:

Help / Cymorth