Cynhelir Gŵyl y Cyhoeddi ar 29 Mehefin yn nhref Caerfyrddin
Yn unol â’r arferiad ers rhai blynyddoedd, bydd gormdaith yr Orsedd a
Seremoni’r Cyhoeddi’i hun yn rhan o ddiwrnod cyfan o hwyl i’r teulu, sy’n
ragflas o’r hyn i ddod pan gynhelir yn Eisteddfod yn Llanelli o 1-9 Awst 2014.
Meddai Trefnydd yr Eisteddfod, Hywel Wyn Edwards, “Mae’n bleser cyhoeddi
bod y Pwyllgor Gwaith lleol, sy’n cynnwys cynrychiolwyr o bob rhan o’r sir, a
Bwrdd yr Orsedd, wedi cytuno mai yn nhref Caerfyrddin y cynhelir y Cyhoeddi ar
gyfer Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr.
“Bydd yr Orsedd a chynrychiolwyr o bob math o sefydliadau a
chymdeithasau lleol yn gorymdeithio drwy’r dref a chynhelir y seremoni’i hun ym
Mharc Caerfyrddin yn ystod y prynhawn. Byddwn yn cyhoeddi mwy o fanylion yn nes
at yr amser, a gobeithio y bydd nifer fawr o drigolion yr ardal yn heidio i
Gaerfyrddin er mwyn mwynhau digwyddiad mawr cyntaf Eisteddfod 2014.”
Os hoffech chi gofrestru ar ran sefydliad neu gymdeithas leol i fod yn
rhan o’r orymdaith swyddogol, anfonwch ebost at gwyb@eisteddfod.org.uk neu ffoniwch 0845
4090 300 i siarad gyda Sioned Edwards cyn 30 Ebrill.
No comments:
Post a Comment