Cyfres deledu
newydd sbon ar S4C ym mis Medi 2013…
Mae cynhyrchwyr ‘Coalhouse’ a ‘Snowdonia 1890’ nawr am roi’r
cyfle i CHI deithio yn ôl mewn amser i brofi bywyd unigryw mewn plasdy crand
Cymreig yn 1910.
Rydym yn chwilio am unigolion a theuluoedd o bob oed i fyw a
gweithio mewn Plasty bendigedig am 3 wythnos ym mis Medi eleni. Ai chi fydd y bwtler, y cogydd, y forwyn,
teulu’r ffermdy….neu hyd yn oed y Sgweier a’i wraig?! Bydd eich bywyd yn Y Plas yn golygu gwisgo,
gweithio, bwyta a chwarae yn union fel yr oedd hi yn 1910, a bydd ein camerau
ni yn dilyn bob cam ar gyfer cyfres uchelgeisiol ar S4C yn yr hydref.
Efallai eich bod wedi dwli ar y dramáu sy’n rhoi blas ar fywyd
‘upstairs/downstairs’, neu efallai bod perthynas wedi byw neu weithio mewn plasdy
yn y gorffennol. Nawr dyma’ch cyfle chi i
gamu i draed ein cyndeidiau am brofiad bythofiadwy ddaw a’n hanes ni’n fyw.
Am ffurflen gais, cysylltwch â’r tîm cynhyrchu ar yplas@yplas.tv neu 029 20 671540.
Dyddiad Cau: 26 Ebrill 2013
No comments:
Post a Comment