Trefnodd Menter Bro Dinefwr Gynlluniau Chwarae ‘Futsal’ llwyddiannus iawn eleni yn ystod hanner tymor rhwng 11-13 Chwefror yng Nghanolfan Hamdden Rhydaman. Prif bwrpas y gweithdai oedd dysgu rheolau sylfaenol pêl droed ‘Futsal’, dysgu technegau newydd ac yn bennaf oll, cael hwyl mewn amgylchedd anghystadleuol, a hynny trwy gyfrwng y Gymraeg.
Daeth llu o blant at ei gilydd ac roeddent wrth eu boddau yn cymryd rhan yn y sesiynau. Ar trydydd diwrnod bu camerâu o raglen deledu Prynhawn Da yn ffilmio’r plant wrth iddynt gael yr hyfforddiant.
No comments:
Post a Comment