Yn fore iawn,
bore Sul y 24 eg o fis Chwefror, roedd cefnogwyr brwd yr Elyrch yn gadael y
pentre’ ar y siwrne i Wembley.Roedd yn anhygoel meddwl fod tim Abertawe yn
final cwpan Carling ac yn chwarae am y teitl am y tro cyntaf yn hanes y clwb.
Mae’r cyfnod yma yn un arbennig yn hanes Abertawe pan maent yn medru cystadlu a
thimau gorau’r uwch_gynghrair! Ond fel y gwyr pawb mae cystadleuaeth cwpan yn
wahanol, ac yn aml iawn y gwelwn ganlyniadau annisgwyl.
Bron i ddwy
flynedd yn ol roedd yr un criw wedi gwneud yr un daith pan lwyddodd yr Elyrch i
sicrhau lle yn yr uwch gynghrair ac roedd y diwrnod hwnnw yn dal yn fyw yn y
cof. Tybed a fyddai’r tim yma yn gallu ennill buddugoliaeth arbennig iawn
heddi’ eto?
Wrth deithio
roedd ‘na gerbydau o bob maint a channoedd o fysys mawr a bach yn llawn o
gefnogwyr a phob man yn for o ddu a gwyn!
Roedd
cyrraedd Wembley a cherdded y “Wembley way” yn brofiad eto, er fod y nerfau yn
dechrau cyffroi erbyn hyn. Roedd cerdded i mewn i’r stadiwm enfawr, hardd am yr ail dro o fewn dwy flynedd yn syfrdanol
a’r awyrgylch yn drydanol! Ni fyddwn fyth yn anghofio’r canu i gyfarch y timau
i’r cae a’r hen ffefryn “Swansea City” yn atsain drwy’r stadiwm.
Roedd hi’n
amlwg erbyn hanner amser fod yr Elyrch yn rheoli’r gem ac yn chwarae peldroed
deniadol a chelfydd iawn ac yn ennill o ddwy gol i ddim ar hanner amser. Wedi’r
hanner llwyddodd y tim i sgorio tair gol arall ac wedi llwyr feistroli’r gem
ymhob agwedd o’r chwarae.
Chwarae teg
i gefnogwyr Bradford fe ddalion nhw ati tan y diwedd i gefnogi ei tim a oedd
wedi trechu rhai o’r timau gorau i gyrraedd y final.
Roedd hi’n
hyfryd cael bod yno ar ddiwrnod hanesyddol arall yn hanes y clwb.Roedd y daith
adre yn un bleserus iawn yn enwedig wrth feddwl am y timau fydd yn ymweld a’r Liberty
y tymor nesa’! Mae’n anodd credu fod yr Elyrch wedi cyflawni cymaint yn y
blynyddoedd diwethaf.Mae’r cefnogwyr yn sicr yn
mwynhau y cyfnod llwyddiannus yma yn hanes y clwb!
Nawr am weld
arwyr Real Madrid,Inter Milan,Barcelona a.y.y.b.
Ymlaen at y
Championais!!!
No comments:
Post a Comment