Yn ystod Eisteddfod Sir Yr Urdd , Rhanbarth Myrddin eleni cyflwynwyd
anrheg i ddiolch i Mrs Gloria Lloyd am flynyddoedd o wasanaeth cyfeilio yn
eisteddfodau yr Urdd yng nghylch Aman a Rhanbarth Dwyrain Myrddin.
Mae Mrs Lloyd yn enwog dros Gymru am gyfeilio ac wedi bod yn cyfeilio yn
ddiflino mewn Eisteddfodau ar hyd a lled Cymru, yn enwedig yn Sir Gaerfyrddin
ac mae ein dyled yn fawr iddi.
Yn y llun Peter Harries Cadeirydd Pwyllgor
Rhanbarth Dwyrain Myrddin Urdd Gobaith Cymru a Sioned Fflur, Swyddog Datblygu
Cynradd Rhanbarthau Myrddin Urdd Gobaith Cymru yn cyflwyno
No comments:
Post a Comment