Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

9.5.13

Cinio Llywydd Cenedlaethol Merched Y Wawr



Ddydd Sadwrn, Chwefror 23ain, aeth 35 o aelodau Merched y Wawr o ganghennau Rhydaman, y Gwter Fawr a GwaunGors i westy’r Glyn Clydach yn ardal Castell-nedd i ymuno â dros 200 o aelodau eraill o’r mudiad o Dde Cymru mewn cinio yng nghwmni Llywydd Cenedlaethol y mudiad, sef Gill Griffiths, o gangen Radyr, Caerdydd.

Yn dilyn cinio blasus, croesawyd pawb yn swyddogol i’r cinio gan Lywydd Rhanbarth Gorllewin Morgannwg, Einir Evans, ac fe gyflwynodd ddarlun o’r rhanbarth trwy restru rhai o nodweddion mwyaf amlwg yr ardal - yn hanesyddol, yn ddiwydiannol, yn ddiwylliannol ac wrth gwrs, soniodd am rai o’r enwogion sy’n hannu o’r lle. A hithau wedi cael ei haddysg uwchradd yng Nghastell-nedd, priodol oedd i Gill Griffiths ategu ei barn bersonol am olygfeydd a llefydd i grwydro. Soniodd Gill hefyd am y cyfle a ddaeth i’w rhan i deithio i Ethiopia yn ddiweddar gydag aelod o Gymorth Cristnogol. Dangosodd ffilm fer yn dangos y sefyllfa drist am brinder dˆwr, a’r gwaith caled mae’r gwragedd a’r merched yn y wlad yn dioddef, ond gwelwyd hefyd y newid araf sy’n deillio o waith Cymorth Cristnogol yno. Dyna, wrth gwrs, yw’r elusen sy’n elwa o waith elusennol Merched y Wawr eleni - sef gwerthiant y bagiau di-ri sy’n cael eu cyfrannu gan aelodau o bob cwr o’r wlad.

Wedi’r siarad, daeth cyfle am adloniant - a hynny yng nghwmni Parti’r Grug -sef Heather Jones, ei merch, Lisa, a dwy ffrind, sef Sioned Mair a Sian Jones. Roedd y canu yn soniarus a swynol ac fe gafwyd ambell stori bersonol hefyd, y cyfan yn ychwanegu at fwynhad pawb oedd yn bresennol.
Diwrnod pleserus dros ben - a phawb yn edrych ymlaen at y flwyddyn nesaf!

 

No comments:

Help / Cymorth