O’r chwith i’r dde: Elfryn Thomas (Ysgrifennydd), Dafydd Wyn (Llywydd), Delme Bowen a Pamela (Prif Westeion), Hefin Williams (Trysorydd)
Cynhaliwyd Cinio Gŵyl Ddewi Cylch Cinio Cymraeg Rhydaman yn
y Ganolfan Aman, Rhydaman, Nos Iau, Mawrth 7fed dan lywyddiaeth Dafydd Wyn,
Glanaman. Ef a groesawodd yr aelodau, gwragedd a ffrindiau a oedd wedi
ymgynnull ar yr achlysur hapus hwn. Bu yn enau hefyd i groesawu yn ôl Arfon
Williams, Y Betws ar ôl llawer mis o absennoldeb oherwydd afiechyd ac fe
ddymunodd adferiad iechyd llwyr a buan iddo ynghyd ag i Hywel Davies, Tom
Mainwaring, Brian Pearce a Trefor Evans sydd wedi cael triniaethau yn y
gwahanol ysbytai yn ddiweddar.
Yr Athro Emeritws Delme Bowen, Cyn-Arglwydd Faer Dinas
Caerdydd a brodor o Lanedi ac un o gyn-ddisgyblion disglair Ysgol Ramadeg
Dyffryn Aman oedd ein prif westai. Atgoffodd ni o eiriau Dewi Sant – gwnewch y
pethau bychain – ac aeth â ni i’w faes ymchwil sef Geneteg a’r Celloedd.
Dywedodd mai’r celloedd oedd yr organau lleiaf yn ein corff ond bod eu heffaith
yn fawr. Mae’n rhaid i’r celloedd farw fel y gellir creu rhai newydd er mwyn i
ni gael byw. Gwraidd canser yn y corff yw’r ffaith bod rhai o’r celloedd yn
gwrthod marw ac o ganlyniad mae’n rhaid cael ‘chemotherapy’ neu ‘radiotherapy’
i’w lladd. Dywedodd bod datblygiadau cyffrous ar y gweill ac yn awr fe arbrofir
gyda ‘myrr’. Fe’i fewnforir o Somalia ac y mae ganddo dros dri chant o
rinweddau gan gynnwys y rinwedd o annog y celloedd diffygiol hyn i hunan-ladd
ac felly yn llawer mwy effeithiol na’r triniaethau presennol gan nad ydyw yn
lladd unrhyw gell iach.
Diolchwyd am anerchiad safonol ac addysgiadol y
byddai Dewi Sant yn falch ohono gan Mel Morgan, Brynaman.
No comments:
Post a Comment