Nos Iau, Mawrth 21ain, yng Nghlwb Rygbi Brynaman,
cynhaliwyd y Cwis Chwaraeon blynyddol ar
y cyd rhwng Mentrau Iaith Castell-nedd
Port Talbot a Dinefwr. Y cwisfeistr eleni oedd Edwyn Williams, Rhydaman, ac
roedd llawer o ganmol ar gynnwys a natur y cwis.
Dechreuwyd y noson gyda phlatiaid o gyri reis a sglodion, wedi ei
baratoi gan Lucy yn y Clwb Rygbi. Rhoddodd hyn
nerth i’r cystadleuwyr! Bu rhyw wyth tîm
wrthi’n ddyfal yn ateb y cwestiynau ac
ar ddiwedd y noson roedd dau dîm yn gyfartal- Clwb Rygbi’r Aman ac un o
dimau Clwb Rygbi Brynaman. Yn wir, bu
rhaid gofyn dau gwestiwn datglwm cyn cael enillwyr, a’r rhai llwyddiannus
oedd y tîm cartre. Llongyfarchiadau!
Dyma lun ohonynt gyda’r cwisfeistr.
No comments:
Post a Comment