Yn ôl yr arfer ers blynyddoedd bellach mae Cylchoedd Cinio
Cymraeg Tybïe a Rhydaman yn cynnal eu cinio ar-y-cyd ym mis Ebrill. Eleni tro
Tybïe oedd i wahodd Rhydaman i’r Clwb Golff yn Glynhir, Nos Fercher, Ebrill
10fed. Cafwyd noson hwylus dros ben gyda bron i drugain yn bresennol.
Llywyddwyd gan Ken Maddocks, Llywydd Cylch Cinio Tybïe ac ef a groesawodd
aelodau Rhydaman i’w plith.
Y prif
westai oedd Lyn Richards, cyn-ddarlithydd ym Mhibirlwyd. Brodor o’r Myddfai yw
Mr. Richards ac ar hyn o bryd yn ffermio yn yr ardal hudolus hon. Trwy gyfrwng
lluniau cafwyd ganddo beth o hanes Rhiwallon a’r ferch o Llyn-y-fan ac hefyd
hanes a rhai o feddyginiaethau Meddygon Myddfai. Noson arbennig gyda lluniau
gogoneddus o ardal Myddfai a’r cylch.
Diolchwyd
ar noson oer o Ebrill am araith a wnaeth wresogi ein calon gan Dafydd Wyn,
Llywydd Cylch Cinio Rhydaman.
Fe
fydd y ddau Gylch yn ciniawa y flwyddyn nesaf yn y Ganolfan Aman, Rhydaman, Nos
Iau, Ebrill 3ydd, 2014
No comments:
Post a Comment