Dymuniadau
gorau i Mr.David Davies, Awelfryn, Stryd y Capel oedd yn dathlu ei benblwydd yn
90 oed ar Fai 4ydd. Daw o deulu adnabyddus yn y pentref ac mae wedi byw yn yr
un tŷ gydol ei oes. Yno y cafodd gwmni aelodau’r teulu ynghyd â rhai cymdogion
a ffrindiau ar ddiwrnod ei
benblwydd.
Dechreuodd ei yrfa yn gweithio yn Siop Herbert (Hewl Stesion), cyn
symud i Siop Ddillad Dynion yn Ystalyfera, wedyn Co-op Pontardawe, cyn dychwelyd
i ‘r Co-op ym Mrynaman. Erbyn hynny
roedd wedi hen arbenigo ym maes dillad
dynion. Mae’n fwy adnabyddus i drigolion Brynaman fel Davey’r Co-op, gan iddo
dreulio cyfnod maith yno yn gweithio yn
y “Gentlemen’s Outfitters”!
No comments:
Post a Comment