Swyddogion y Clwb gyda rhai aelodau o'r pwyllgor - Arnallt James, Anita Joens, Gwyn Llewelyn, Betty Williams, Olwen Williams a Nancy Jones.
Mae'r Clwb yn mynd o nerth I nerth ac yn ddiweddar daeth Ysgol Parcyrhun i ymweld a’r
gymedithas. Cafwyd amryw o eitemau gan y plant, gan gynnwys unawdau ac
adroddiadau a chaneuon yn y Gymraeg a’r
Saesneg gan Gôr yr ysgol. Roedd yn brynhawn ardderchog yng nghwnmni’r plant a
diolchodd Mrs Anita Jones, y cadeirydd, iddynt hwythau a’r athrawon oedd wedi
eu hyffroddi a dymunodd pawb pob llwyddiant iddynt yn Eisteddfod yr urdd yn Sir
Benfro.
hefyd death Mr
Edwyn Williams, Capel Hendre I roi cwis gwahanol i'r aelodau. Dangosodd Edwyn amryw o luniau o’r ardal o hen
Bont Caerfyrddin i Gastell Dinefwr ac ardaloedd eraill o gymru, gan gynnwys yr
hen gapel Bach Soar y Mynydd. Hefyd roedd pawb wrth eu boddau yn ceisio dyfalu pwy neu beth oedd yn cael ei ddangos. Wrth
iddo roi lluniau o enwogion a gwahannol eitemau fel hen fangl ar y sgrin fawr.
Cofiwch bod y clwb yn cyfarfod yn Neuadd y Pensiynnwyr pob dydd
Mercher am 1.30 ac mae croeso i bawb.
No comments:
Post a Comment