Dros y deuddeg mis diwethaf, mae’r clwb eco wedi rhoi
gweddnewidiad llwyr i dir yr ysgol ac yn bennaf i’r gerddi. Er mwyn ennill statws Ysgolion Eco am y
drydedd tro, bu’n rhaid i’r clwb eco, yn ogystal â phlant o bob blwyddyn
gydweithio i newid gerddi’r ysgol. Plannwyd
bob math o berlysiau, hadau a phlanhigion ac fe ddysgwyd llu o wybodaeth am
gylch bywyd, pwysigrwydd a rhannau’r planhigion. Ceir gwahanol thema o fewn pob llain sy’n
amrywio o’r oes Fictoria, yr Ail Ryfel Byd, y Tuduriaid a’r Rhufeiniaid. Penderfynwyd plannu llysiau yn nhŷ gwydr yr
ysgol er mwyn eu rhoi i staff y gegin i ddefnyddio ym mwydydd y plant. Bu’r holl broses yn llwyddiannus ac fe dderbyniwyd
yr ysgol y drydedd faner werdd. Ar ôl
ennill statws y faner werdd am y drydedd tro, mae’r clwb eco yn edrych ymlaen
am y wobr platinwm nesaf mewn dwy flynedd.
No comments:
Post a Comment