Hir yw pob
aros a hynny a fu’n wir i arwyr yr ‘Arctic
Convoy’. Arhosiad o saith deg o flynyddoedd cyn cydnabod eu gwasanaeth a’u
haberth yn y man mwyaf dieflig yr Ail Rhyfel Byd ac wele Les Davies sy’n 92 oed
yn cael ei anrhegu â medal yr ‘Arctic
Star’
Ganwyd Les yn y flwyddyn 1920, yn y cartref yn Fenton
Terrace ac yno mae ei chwaer, Clarice Elizabeth Esther Phillips, sy’n gant oed,
yn byw o hyd. Wedi ei addysg yn yr Ysgol Ramadeg Dyffryn Aman dechreuodd
weithio fel clerc gyda’r Bwrdd Glo.
Glaslanc pedair ar bymtheg oed oedd Les pan ddaeth yr
alwad i ymuno yng Ngwasanaeth Cenedlaethol yr Ail Ryfel Byd. Wedi cyfnod o
ymarfer yn Tortworth Court sydd rhwng Bryste a Chaerloyw death yr alwad iddo
ymuno â’r Llynges ac i hwylio ar y ‘Kiwi’
i Seland Newydd. Cyn ymadael galwodd gŵr a gwraig o’r Betws â’i gartref gan ofyn a
fyddai Les yn barod i alw heibio i weld eu mab Michael Vincent a oedd yr adeg
honno yn Ficer yn Hamilton. Daeth y cyfarfyddiad hyn i fod yn hollol annisgwyl
pan yn cerdded y stryd fawr yn Auckland.
Treuliodd Les dwy flynedd yno yn cyflawni y gwaith
pwysig o geisio dehongli ‘codes’ y
gelyn. Oddi yno hwyliodd Les i fyny i Fôr yr Arctic gan gario allan y gwaith
tyngedfennol bwysig trwy gario nwyddau amhrisiadwy i wledydd Rwsia a
Scandinafia drwy foroedd bâs a pheryglus rhwng yr Arctic a chyrchfan yr
Almaenwyr yn Norwy. Dyma’r fan a ddisgrifiwyd gan Winston Churchill fel y
gwaethaf a’r mwyaf peryglus yn y byd. Er holl drafferthion gyda’r gelyn mae’n
debyg mai y tywydd oer, rhewllyd oedd y gelyn pennaf a’u hwynebau. Y mae gan
Les yn ei feddiant lun o’i long yn yr Arctic wedi ei gorchuddio yn llwyr â rhew
trwchus. Gwelodd Les llawer i long yn cael ei suddo a’r morwyr yn trengid mewn
ychydig eiliadau ar ôl cyffwrdd â’r dŵr oer,
oer.
Yn 1946 dychwelodd yn iach i’w gartref a’i deulu
diolchgar ac fe ailgydiodd yn ei swydd gyda’r Bwrdd Glo. Yn ei amser hamdden
hoffai chwarae criced, pêl-droed a rygbi. Treuliodd amser yn chwarae biliards a
snwcer yn yr Arcade yn Rhydaman ac yn ystafell llofft y siop ‘Star Supply Stores’. Llwyddodd i ennill
cystadleuaeth snwcer a derbyniodd ‘cue’ mewn câs hardd. Daeth llwyddiant hefyd
i’w dîm a rhaid oedd coffau’r achlysur drwy dynnu llun a hynny ar y Sul. Perodd
hyn dipyn o ofid a phan oeddent ar dynnu’r llun gwaeddodd un hen wag, ‘Mae Bob Ellis yn dod’ (sef ei
weinidog). Gwasgarodd pawb.
Y bennod nesaf yn ei fywyd oedd cyfarfod ag Olga, ei
gariad o’r Betws. Fe’i priodwyd yn 1949 a byw yng nghartref ei rhieni. Ganwyd
dwy ferch iddynt, Wendy ac Yvonne
Bu canu yn rhan anatod o fywyd Les a’i deulu. Fe’i
etholwyd yn Flaenor yng Nghaersalem a oedd dan weinidogaeth y Parch. Robert
Ellis bryd hynny. Ef hefyd oedd codwr canu yr eglwys. Mae’r talent a’r
diddordeb mewn miwsig yn rhedeg drwy’r teulu. Ei ŵyr Aled yn aelod o gôr ‘Only Men Aloud’ ac erbyn hyn yn arweinydd ‘Only Boys Aloud’.
Symudodd Les a’i briod i fyw yn Heol Penygarn a bu’r
ddau yn ffyddlon a theyrngar i’r achos yng Nghaersalem ac er bod ei iechyd yn
fregus fe welir y pâr yn gyson yno bob Sul.
Dyn tawedog ac addfwyn yw Les ac mae’n datgan bod
derbyn y wobr yn ffaith bod ei gyfoedion a gyflawnodd yr aberth fwyaf trwy rhoi
eu bywyd dros eraill, wedi cael eu cydnabod – er yn hwyr y dydd. Wrth edrych yn
ôl dros ei flynyddoedd yn yr Arctic, amser a oedd yn peri gofid i’w deulu,
daliodd Les yn dyn yn ei gred bod Duw gydag ef ar ei fordeithiau – y gred honno
a’i cadwodd pan oedd pethau are eu gwaethaf.
No comments:
Post a Comment