Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

9.3.14

Taith Ysgol y Bedol i Moorea, Tahiti

Ym mis Tachwedd, buodd Mr Berian Jones a Miss Caryl John ar daith i ynys Moorea sydd ger Tahiti yn ‘French Polynesia’.  Cawson nhw amser arbennig yn llawn o brofiadau bythgofiadwy.  Roedd y croeso gan y plant, yr athrawon a’r rhieni yn Ysgol Maatea yn ffantastig.  Cafodd Mr Jones a Miss John eu trin fel aelodau o deulu brenhinol!  Yn ystod yr wythnos cafwyd cyfarfodydd gyda’r partneriaid eraill yn y prosiect Comenius a bu cyfleoedd i wneud llawer o weithgareddau gyda’r plant wrth ddysgu am eu diwylliant arbennig.  Roeddent yn ffodus iawn i gael y cyfle i fynd i le mor arbennig fel Tahiti ac i gael dychwelyd i Ysgol y Bedol i rannu eu hanesion, lluniau ac anrhegion gyda’r plant a’r athrawon. Bydd rhai aelodau eraill o’r staff a phlant yn cael cyfleoedd i ymweld â’r gwledydd eraill sydd yn rhan o’r prosiect yn y dyfodol agos sef Sbaen, yr Eidal, y Ffindir a Gwlad Pwyl.

No comments:

Help / Cymorth