Cafwyd Eisteddfod lwyddiannus iawn yn ysgol Gwaun Cae Gurwen yn ddiweddar. Roedd neuadd yr ysgol yn fôr o goch gyda’r plant wedi
gwisgo yn eu gwisg Gymreig a’u crysau rygbi coch. Diddanwyd y gynulleidfa gydag
amrywiaeth o gystadleuthau -canu unawd, llefaru, côrau adran, canu recorder a
dawnsio disgo. Hefyd gwobrwywyd y plant hynny oedd wedi ennill cystadleuthau
gwaith ysgrifenedig, llawysgrifen a chelf. Beili Glas oedd y llys buddugol ar
ddiwedd y cystadlu.
Diolchiadau mawr i’r beirniaid yn ystod y dydd sef Mrs
Catherine Williams a Miss Sophie Lacey ac i Mrs Maureen Jones a Mrs Joan Slaymaker am feirniadu’r gwaith
Celf ac i Mr Ken Davies a Mrs Glenys Kim
Protheroe am feirniadu’r gwaith ysgrifenedig. Diolch hefyd i’n partneriaid
darllen ffyddlon am helpu gyda’r lluniaeth.
Testun cystadleuaeth y gadair eleni oedd ‘Y Sahara’ a
phrosiect Macey Clafton oedd yn fuddugol. Llongyfarchiadau mawr iddi.
No comments:
Post a Comment