Ers llawer blwyddyn bellach mae deg o eglwysi Annibynnol a Methodistaidd
cylch Rhydaman wedi ymuno i gynnal Cymanfa Ganu Gyd-enwadol ar Sul y Blodau yng
Ngellimanwydd, Rhydaman gan gynnwys Eglwysi Moreia a Chaersalem, Tycroes;
Ebeneser, Llanedi a Chapel yr Hendre. Mae’r arweinydd eleni, Steffan Huw
Watkins, a chysylltiadau agos â Thycroes. Magwyd Steffan yn y Fforest,
Pontarddulais, yn fab i Huw a Menna, yn frawd i Sioned, ac yn ŵyr i Eilir a’r
diweddar Eifion Watkins, Heol Pontarddulais, Tycroes. Derbyniodd ei addysg yn
Ysgol Dewi Sant, Llanelli ac Ysgol Y Strade, cyn ennill gradd yn y Gymraeg a
cherddoriaeth ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae Steffan bellach wedi ymgartrefu yn y
Brifddinas ac yn gweithio ym myd y cyfryngau yn adran gynhyrchu cwmni
Boomerang. Mae’n ymddi-ddori’n fawr ym myd cerddoriaeth, ac yn ogystal â
chanu’r piano a’r trwmped, mae wrth ei fodd â chanu corawl. Ers yn blentyn,
bu’n ymwneud ag amrywiol fandiau a chorau. Mae’n gyn-aelod o Gôr Cenedlaethol
Ieuenctid Cymru, yn un o sylfaenwyr Côr Aelwyd y Waunddyfal, arweinydd Côr Bois
y Waun a bellach yn aelod brwd o Gôrdydd.
Pan fod ganddo ychydig amser hamdden, mae wrth ei fodd yn cadw’n heini a
chefnogi’r Sgarlets.
Cynhaliwyd
dwy ysgol gân undebol eisoes ac fe fydd yr olaf yn cael ei chynnal yng
Ngellimanwydd, Nos Sul, Mawrth 23ain. Yna Nos Sul, Ebrill 6ed am 5.30 o’r gloch
fe gynhelir rihyrsal i’r gymanfa gyda Steffan Huw Watkins yn arwain ac ar y Sul
canlynol, Sul y Blodau fe gynhelir y Gymanfa yng Ngellimanwydd. Oedfa’r plant
yn y bore am 10.30 a’r oedolion yn yr hwyr am 5.30 o’r gloch.
No comments:
Post a Comment