Mae Y Parchg Dyfrig Rees Gweinidog Gellimanwydd, Rhydaman a Moreia, Tycroes wedi derbyn galwad i wasanaethu ar Eglwys Tabernacl, Penybont ar Ogwr. Bydd Mr Rees yn dechrau yn Nhabernacl yn Mis Medi.
Mae Dyfrig wedi gwasanaethu arnom yng Ngellimanwydd ers 14 mlynedd ac mae’r capel wedi llwyddo yn arbennig yn ystod ei Weinidogaeth. Dymuniad holl aelodau a ffrindiau Gellimanwydd yw pob hapusrwydd a llwyddiant i Dyfrig, Mandy a’r bechgyn yn Mhenybont. Bydd y capel yn gweld eu heisiau yn fawr.
No comments:
Post a Comment