Mae Partneriaith Aman Tawe mewn
cydweithrediad ac Elin Wyn Murphy wedi dechrau Clwb canu, actio a dawnsio
newydd sef ‘Serennu’. Mae’r Clwb yn cael ei redeg bob nos Fawrth yn Neuadd
Drama Ysgol Dyffryn Aman. Amseroedd Serennu
yw, 4.45pm-5.00pm i flynyddoedd 1,2 a 3 a rhwng 6pm-7pm i flynyddoedd 4,5 a 6.
Croeso i fechgyn a merched i ddod i
ymarfer a dysgu sgiliau newydd. Mi fydd Serennu yn perfformio yn Eisteddfod
Genedlaethol Sir Gar 2014 yn Llanelli'r flwyddyn yma.
Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth
cysylltwch â Sarah Jones ar 01558 825336 neu hoffwch ein tudalen ‘Facebook/
Serennu’.
No comments:
Post a Comment