Yn ystod gwyliau’r Pasg yn Rhydaman cynhaliwyd cystadlaethau chwaraeon ar gyfer Ysgolion Sul a chlybiau Cristnogol Gogledd Myrddin. Cofrestrwyd 21 o dimoedd a daeth tyrfa niferus ynghyd i gefnogi’r plant a’r ieuenctid. Cafwyd hwyl fawr gyda’r cystadlu ac roedd Canolfan Hamdden Rhydaman yn llawn cyffro trwy gydol ydydd.
Rhannwyd y timoedd mewn grwpiau gan sicrhau bod pob tîm yn cael chwarae o leiaf dwy gêm yr un. Cafwyd cystadlu brwd. Yn gyntaf yng nghystadleuaeth Pel droed ucwhradd oedd tim Eglwysi cylch Dyffryn Aman. Llongyfarchiadau mawr i bob un wnaeth gymryd rhan a chyfrannu tuag at ddiwrnod llwyddiannus iawn i Ysgolion Sul y dalgylch.
Bydd y gweithgareddau nesaf a drefnir gan y Fenter yn cynnwys “Bwrlwm Bro” yn Neuadd Gellimanwydd (dyddiad i’w gadarnhau) a Noson Mabolgampau a Thynnu Rhaff ar nos Wener Gorffennaf 11eg yng Nghanolfan Hamdden Rhydaman. Manylion pellach am yr uchod a digwyddiadau eraill ar gael trwy gysylltu â Nigel Davies, (Swyddog Plant / Ieuenctid Menter Cydenwadol Gogledd Myrddin) ar (01994) 230049 neu e-bost gogmyrddin@uwclub.net
No comments:
Post a Comment