Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

17.5.08

Ysgol Dyffryn Aman


Cynllun ‘Awyr Las’
Ehangu gorwelion! Datblygu syniadau! Dyna oedd bwriad cynllun trosglwyddo disgyblion Blwyddyn 6 i Ysgol Dyffryn Aman. Bu dros saith deg o blant Blwyddyn 6 a 7 yn cyd-weithio ar y cynllun yn datblygu sgiliau allweddol a chymryd rhan mewn
amrywiaeth o weithgareddau. Cafwyd sesiynau megis datrys problemau, gweithio o dan bwysau, rhesymeg, llafaredd ac arweinyddiaeth bob mis yn yr ysgol gyfun. Yn ogystal â hyn, trefnwyd taith breswyl i’r disgyblion yng N g h a n o l fan yr Urdd yng Nghaerdydd er mwyn cynnig cyfleoedd dysgu tu allan i’r ystafell ddosbarth.
Daeth y disgyblion at ei gilydd o unarddeg ysgol gynradd y cwm i ymuno â disgyblion Dyffryn Aman. Cyd-weithiodd yr ysgol gydag athrawon cynradd yr ardal, Gwasanaeth Ieuenctid Sir Gâr a Gyrfa Cymru ar yr amryw weithgareddau. Fe fydd y cynllun yn
parhau y flwyddyn nesaf ar ôl i ddisgyblion Blwyddyn 6 ddechrau yn eu hysgol newydd.

No comments:

Help / Cymorth