Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

2.7.08

BAND IEUENCTID CWMTAWE

Penblwydd Hapus Band Pres Ieuenctid Cwmtawe yn Ddeg Oed. Ffurfiwyd y band ieuenctid gan Wayne Pedrick deg mlynedd yn ôl. Disgyblion o ysgolion yr ardal yw aelodau’r band ac mae’r band yn derbyn cefnogaeth Gwasanaeth Cerddoriaeth Gorllewin Morgannwg a Mr Philip Emmannuel. Mae Wayne yn gweithio i’r gwasanaeth fel athro cerddoriaeth ac yn ymweld a nifer o ysgolion yr ardal.
Daw’r disgyblion o ysgolion cyfun Ystalyfera, Cwmtawe, Bryntawe a Dyffryn Aman. Mae’r band yn ymarfer bob nos Fercher yn Ysgol Gynradd Gymraeg Pontardawe ac yn cystadlu yn rheolaidd mewn cystadlaethau bandiau pres ieuenctid ac yn adran pedwar o’r cystadlaethau i oedolion. Cafwydd llwyddiant ym mis Hydref ym Mhorth Tywyn ac
hefyd yng Nglyn Ebwy ym mis Mai eleni. Ar dydd Sadwrn 17eg o Fis Mai ennillodd y band y wobr gyntaf mewn cystadleuaeth yn Nhredegar ac yn ychwanegol ennillodd Rhodri Morris o Gwmgors y cwpan am y chwaraewr offeryn gorau. Mae hanner cant o aelodau yn y band ar hyn o bryd. Band Ieuenctid Cwmtawe yw’r band swyddogol sy’n chwarae cyn gemau’r Gweilch yn Stadiwm Liberty ac maent yn codi’r hwyl ac yn boblogaidd iawn gan y cefnogwyr yno.
Mae’r band yn ystod y deng mlynedd diwethaf wedi mynd o nerth i nerth ac o ganlyniad bu’n rhaid sefydlu ‘band ymarfer’ i fwydo’r band mawr. Dechreuodd y band ymarfer tua pedair blynedd yn ôl o dan arweiniad Wayne ac mae tua deugain o blant o
9 i 13 oed yn cyfarfod ac yn ymarfer yn rheolaidd. Mae aleodau’r band yma yn cael eu paratoi ar gyfer ymuno â’r band hyn maes o law. Y llynedd bu’r band yma yn cystadlu yn rownd derfynol Bandiau Pres Prydain Fawr yn Manceinion. Cafodd y band y pedwerydd safle (allan o ddeg band a oedd yn cystadlu) yn y gystadleuaeth o dan 16 oed. Bu’r band hwn yn llwyddiannus ac ennill y wobr gyntaf yn Nglyn Ebwy llynedd ac hefyd yng nghystadleuaeth Bandiau Pres Gwent ym mis Ionawr eleni. Yn ddiweddar ennillodd y band y wobr aur yn y gystadleuaeth i fandiau Iau yn Nhredegar. Da iawn yn wir!
Fel rhan o’r dathliadau penblwydd mae’r band Iau wedi ymweld â Ynys Manaw. Bu’r band yno am bump diwrnod ac uchafbwynt y daith oedd perfformio mewn cyngerdd gyda Band Trefol Douglas. Cynhaliwyd cyngerdd ym Mhontardawe nos Sadwrn 26ain o Ebrill a chymerwyd rhan gan dros 100 o bobl ifanc lleol. Mae’r band yn wir wedi dod a mwynhad i gannoedd o blant ac oedolion dros y blynyddoedd. O dan arweiniad medrus a gofalus Wayne Pedrick mae sfin unigryw y band pres yn dal i atseinio yn yr ardal.
Diolch yn fawr iddo am ei ymroddiad llwyr a chlodwiw a gobeithio daw yr un llwyddiant dros y deng mlynedd nesa!
Penblwydd Hapus Iawn a Llongyfarchiadau

1 comment:

Anonymous said...

Good post.

Help / Cymorth