Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

2.7.08

Llwyddiant i Glybiau Gofal


Bu’r Fenter yn ffodus iawn yn ddiweddar i ddenu £5,000 oddi wrth Gronfa Arian i Bawb y Loteri ar gyfer creu prosiect newydd sbon, sef Cynllun Sgiliau Bywyd yng nghlybiau gofal yr ardal. Pwrpas y prosiect yw codi ymwybyddiaeth plant rhwng 4-11 oed at fyw eu bywydau yn iach ac i ddysgu iddynt bwysigrwydd gofalu am yr amgylchedd.
Byddwn yn trefnu gweithdai a gweithgareddau amrywiol yn ein clybiau gofal yn Llandeilo, Rhydaman a Llangadog. Byddwn yn annog plant i fyw mewn ffordd gynaliadwy yn eu bywyd bob dydd drwy drefnu themâu gwahanol yn fisol a bydd hyn yn cynnwys bwyta’n iach, cadw’n heini, ailgylchu, arbed ynni, tyfu bwyd, atal bwlio, traddodiadau Cymreig, traddodiadau’r byd a choginio. Byddwn hefyd yn creu pecynnau i’r clybiau a fydd yn cwmpasu’r holl themâu uchod.


Dyma blant un o glybiau’r Fenter, sef Clwb Gofal Ysgol Gymraeg Rhydaman yn dathlu gyda’u harweinwydd Claire a Lynette Thomas, Rheolwr Gwasanaethau Plant
Menter Bro Dinefwr.

No comments:

Help / Cymorth