Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

4.7.08

HAWL I HOLI

Nos Fawrth, 1 Gorffennaf daeth rhaglen Manylu, prif raglen materion cyfoes Radio Cymru i Rydaman . Dewi Llwyd, y newyddiadurwr a chyflwynydd profiadol Pawb a'i Farn a Newyddion oedd yn llywio'r drafodaeth ac yn herio'r panel. Ar y panel yn Rhydaman oedd Alun Wyn Bevan, Carwyn Jones AC, Ron Jones a Catherine Rees. Daeth tyrfa gref i ymuno yn y gynulleidfa ac roedd y drafodaeth yn un fywiog dros ben.
Cafodd y rhaglen ei darlledu ar y Noson ganlynol sef Nos Fercher 2 Gorffennaf am 6.00 o'r gloch.

No comments:

Help / Cymorth